AMDANOM NI
O frwdfrydedd a mwynhad tuag at safon anhygoel y sîn gerddoriaeth Gymraeg, penderfynnwyd sefydlu asiantaeth RIFF yn 2025, i sicrhau fod cerddorion Cymru yn cael llwyfan cryf i ffocysu ar yr hyn maent yn ei wneud orau, sef perfformio a diddannu’r torfeydd.
Roedd teimlad fod talent anhygoel ar brydiau yn cael ei foddi dan bwysau’r gwaith papur a’r trefnu – felly dyma benderfynnu camu i’r adwy i gefnogi, drwy hwyluso paratoadau a threfniadau gigio i fandiau Cymru a’r rhai sydd yn trefnu’r gigiau a’r gŵyliau.
Rydym yn benderfynnol y dylai’r gefnogaeth broffesiynoli’r sîn gan greu amgylchedd lle gall bandiau, unigolion a lleoliadau ffynnu.
Asiantaeth Riff Agency Cyf
Rhif Cwmni / Company No 16551330
Swyddfa Gofrestredig / Registered Office 47 Ardd Fawr, Dolgellau, LL40 2YD
Cofrestir yng Nghymru a Lloegr / Registered in England and Wales
