Logo Riff Cymru
Logo Riff Cymru

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pwy ydym ni

Asiantaeth Riff Agency Cyf (‘ni’, ‘ein’) yw asiantaeth gerddoriaeth sydd yn gweithio gyda bandiau, artistiaid unigol, lleoliadau a chwmnïau gŵyl. Rydym yn ymrwymo i ddiogelu eich data personol a pharchu eich preifatrwydd.

1. Pwrpas yr Hysbysiad hwn

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cydweithio â ni.

2. I bwy mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol?

Bandiau a’u haelodau, artistiaid unigol, perchnogion/rheolwyr lleoliadau, cynrychiolwyr cwmnïau gŵyl, gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant sydd yn cydweithio gyda ni.

3. Y data personol a gasglwn

Manylion cyswllt (enw, e-bost, ffôn), gwybodaeth broffesiynol (enw’r band, rôl), manylion ariannol (manylion banc), manylion contract.

4. Sut rydym yn casglu eich Gwybodaeth

Yn uniongyrchol gennych chi

5. Pam rydym yn defnyddio eich Gwybodaeth

I reoli archebion, contractau a thaliadau.

Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynu arni ar gyfer prosesu eich data personol yw Erthygl 6(1)(b) o’r GDPR y DU, gan fod prosesu’n anghenrheidiol ar gyfer cyflawni contract gyda chi, neu I gymryd camanu are ich cais cyn mynd I mewn I gontract.

6. Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Trefnwyr digwyddiadau, lleoliadau, hyrwyddwyr, darparwyr cyfreithiol a chyfrifyddu, proseswyr taliadau. Nid ydym yn gwerthu eich data.

7. Trosglwyddiadau Rhyngwladol

Rydym yn storio eich data yn y DU/AEE. Os caiff ei drosglwyddo y tu allan, rydym yn sicrhau mesurau diogelwch.

8. Am ba hyd rydym yn cadw eich data

Dim ond cyhyd ag sydd angen ar gyfer y dibenion a’r gofynion cyfreithiol.

9. Eich hawliau

Gallwch gael mynediad, cywiro, dileu, cyfyngu neu wrthwynebu defnyddio eich data, tynnu caniatâd yn ôl, a gofyn am gludadwyedd.

10. Sut rydym yn diogelu eich data

Rydym yn defnyddio mesurau technegol a threfniadol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

11. Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni: [email protected]

12. Cwynion

Os ydych yn anfodlon ar sut rydym yn trin eich data, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk / 0303 123 1113.