YWS GWYNEDD





Cychwynodd Yws Gwynedd fel prosiect unigol y canwr, Ywain Gwynedd, ond yn sydyn datblygodd i fod yn fwystfil oedd neb wedi’i ragweld.
Wedi recordio sesiwn i BBC Radio Cymru yn wreiddiol, aeth ymlaen i recordio albym gyfa – Codi/\Cysgu – ac yna ffurfio band i’w deithio’n fyw. Yn ystod y cyfnod yma daeth Yws Gwynedd yn mwy o fand na phrosiect unigol a daeth yr aelodau at eu gilydd yn ystod haf 2015 i sgwennu ail albym – Anrheoli.
Cafodd yr albym yna’i ryddhau yn 2016 ac aeth y band ymlaen i chwarae yn nifer o wyliau mwyaf Cymru yn cynnwys Tafwyl, Sesiwn Fawr, noson fythgofiadwy gyda gerddorfa’r Welsh Pops yn Eisteddfod Môn 2017 yn ogystal a thorri record y nos Sadwrn ganlynol am y gynulleidfa fwyaf i fynychu Maes B erioed.


