MEI EMRYS





Canwr-gyfansoddwr o ardal Caernarfon yw Mei Emrys, sydd wrthi’n gweithio ar ei ail albwm unigol ar hyn o bryd: bydd ‘Atlas’ yn cael ei ryddhau ar Recordiau Côsh yn ystod 2026.
Un o’r caneuon fydd yn ymddangos ar yr albwm newydd yw ‘Hen’, sef deuawd gydag Elidyr Glyn (o Bwncath). ‘Hen’ yw’r diweddaraf mewn cyfres o draciau mae Mei wedi eu rhyddhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf: mae ‘Olwyn Uwchben y Dŵr’, ‘29’, ‘Allan o’r Suddo’ a ‘ Mae Hi Isio Bod Ei Hun’ i gyd wedi cael eu chwarae yn eang ar BBC Radio Cymru a thu hwnt.
Cymharodd Adam Whalton y trac ‘Lawr’ o’r Albwm ‘Llwch’ i sŵn bandiau fel Oasis, Kasabian a T. Rex. Derbyniodd ‘Llwch’ nifer o adolygiadau cadarnhaol – ar-lein a gan y wasg Gymraeg – gydag adolygydd gwefan ‘From The Margins’ yn ei ddisgrifio fel:
‘Albwm unigol gyntaf rhagorol … sydd wedi ei adeiladu ar seiniau gitâr pefriol, gyda rhythmau heintus a lleisio didwyll a chalonnog…’
Y tu hwnt i fandiau fel Oasis a Kasabian, mae cerddoriaeth unigol Mei hefyd wedi ei ddylanwadu gan artistiaid fel Coldplay, The Killers, Black Rebel Motorcycle Club, DMA’s, John Mayer a The Smiths.
Cyn iddo fynd ati i ryddhau cerddoriaeth fel artist unigol, ’roedd Mei yn aelod o’r band roc Cymraeg poblogaidd, Vanta oedd yn gyfrifol am y caneuon eithriadol o boblogaidd – ‘Tri Mis a Diwrnod’, ‘Enfys Bell’ a ‘Pen y Byd’. Mae’r olaf wedi cael ei hatgyfodi’n ddiweddar – ac wedi cael ail fywyd – fel rhan greiddiol o set fyw Bwncath.


