Y DDELWEDD





Mae’r Ddelwedd yn fand chwe aelod o ardal Blaenau Ffestiniog, Criccieth a Chaernarfon. Ffurfiwyd y band ym mis Ionawr 2025 ac maent wedi llwyddo i sefydlu eu hunain yn gyflym, gan berfformio mewn lleoliadau amrywiol o dafarndai bychain i brif wyliau, gan gynnwys Llwyfan y Maes a Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Y Ddelwedd yn enwog am eu cerddoriaeth wreiddiol sy’n cyfuno roc a blŵs â sbectrwm eang o genres eraill. Yn dilyn rhyddhau eu EP cyntaf, a ryddhawyd yn annibynnol, fe wnaethant ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2025.


