WIGWAM





Mae Wigwam yn fand indie o Gaerdydd, a ffurfiwyd yn 2017. Gan gyfuno dylanwadau cerddorol eclectig â melodïau cryfion a ieithwedd dinesig, mae’r band wedi meithrin enw da fel act fyw cyffrous, gyda slotiau diweddar yn cefnogi bandiau fel Personal Trainer a Half Happy yng Nghlwb Ifor Bach.
Disgrifiodd Clash Magazine eu EP diweddaraf, ‘Paid â Gosod Larwm’ fel “ymdrech uchelgeisiol, yn cynnwys pum trac gwych… a naws alt-country moethus” sy’n cynrychioli “dychweliad cynnes a chroesawgar” i’r band. Mae’r casgliad yn dangos y band ar eu mwyaf chwareus ac arloesol yn gerddorol, gan neidio’n gyson rhwng slacker, countrygaze a power-pop. Mae hyn yn creu sain sy’n portreadu’r band fel cefndryd Cymraeg i artistiaid rhyngwladol fel Wednesday, The Beths a Soccer Mommy, tra’n dal i barchu eu gwreiddiau yn sîn indie Caerdydd.


