TARAN





Ffurfiwyd Taran yn haf 2023 gan grŵp o ffrindiau ysgol i berfformio yn Tafwyl fel rhan o gynllun ‘Yn Cyflwyno’. Ers hynny, mae’r band roc ifanc o Gaerdydd wedi gigio ledled Cymru a chwarae yn Llundain a Llydaw.
Enillodd Taran wobr Selar ar gyfer eu EP, Dyweda, wyt ti…. yn 2025. Rhyddhawyd eu halbym cyntaf, Yn y Cymylau, yn Awst 2025 ar label JigCal a oedd yn cynnwys cymysgedd o ganeuon amrywiol am gariad, iechyd meddwl a gwleidyddiaeth mewn arddull roc a baledi.
Yn cyfuno dylanwadau roc, pop, amgen a pop-punk, mae sŵn Taran yn un unirgyw. Yn 2025 cyrhaeddodd Popeth (DDIM) Yn Iawn rhif 9 ar siart amgen Rhys Mwyn.


