MYNADD





Mae Mynadd yn fand o ardal y Bala sydd wedi bod yn ’sgwennu caneuon a pherfformio ers diwedd 2022. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Dio Mor Hawdd â Hynny?’, ar label I KA CHING ym mis Mehefin 2025. Derbyniodd yr albwm glod yn y wasg, gan gynnwys adolygiad cadarnhaol yn Nation.Cymru, lle disgrifiwyd yr albwm yn “outstanding”.
Maen nhw’n hen lawiau ar y sîn gigio yng Nghymru erbyn hyn, a hwythau wedi perfformio ar brif lwyfannau’r Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau a llawer mwy.
Roedd Mynadd yn un o’r 5 artist i’w gwylio yn 2024 yn ôl yr adolygydd cerddoriaeth Tegwen Bruce-Deans ar wefan BBC Cymru Fyw. Dywedodd: “Mae’n amlwg bod y band wedi bod yn gweithio ar eu sŵn trwy arbrofi gyda chwarae’n fyw, achos mae eu sengl gyntaf, Llwybrau, ag ôl crefft hyderus a gofalus arni. Mae’r allweddellau arddull jazz yn cymryd beth allai fod yn sain band confensiynol iawn i’r lefel nesaf, ac yn dal yn berffaith hunaniaeth eofn a diniweidrwydd hyfryd y bobl ifainc y tu ôl i’r gerddoriaeth hefyd.”
Maen nhw’n ymfalchïo yng nghyfoeth cerddorol oesol eu bro, gan ddod ag amrywiaeth o elfennau a dylanwadau ynghyd i dorri eu cwys eu hunain.


