MORGAN ELWY





Mae Morgan Elwy a’r criw yn adnabyddus am ein cysylltu drwy’r iaith gyffredinol byd eang sef cerddoriaeth a diwylliant. Mae’r caneuon, gyda negeseuon o heddwch, parti a positive vibes yn atseinio fel pontydd sy’n ymestyn o dirwedd Cymru i galon rhythmig reggae. Gyda rhythmau rock cadarn alawon cofiadwy a harmonïau cynnes, maent yn cyflwyno cyfuniad o reggae Cymraeg sydd â’i wreiddiau’n ddwfn ym mynyddoedd Mynydd Hiraethog, Gogledd Cymru. Nid taith gerddorol yn unig yw’r perfformiad hwn; mae’n ddathliad o dreftadaeth Cymreig a reggae.
Ers codi i’r sîn gyda’i gân boblogaidd Bach O Hwne, mae wedi rhyddhau dau albwm unigryw ynghyd â nifer o brosiectau cydweithredol. Mae wedi bod yn perfformio’n gyson gyda’i fand gan rannu llwyfannau cefnogi gyda artistiaid fel Aleighcia Scott, The Skatalites, Lutan Fyah, Tarrus Riley, Gentlemen’s Dub Club a Queen Omega. Mae Morgan Elwy hefyd yn MC adnabyddus o fewn cymuned soundsystem Cymru, gan “mashio fe lan” yn rheolaidd gyda’r likes o Pen Dub, HiFi Ty Coch, Skanking Sounds, Freedem a Sawmill Soundsystem.


