Logo Riff Cymru

MELDA LOIS

Facebook
Instagram

Yn wreiddiol o Gwm Croes ger Llanuwchllyn, mae Melda Lois yn cyfuno geiriau barddonol a phersonol gyda threfniannau acwstig, cynnes ac amrwd yn ei chaneuon. Gydag ysbrydoliaethau yn cynnwys artistiaid fel Joni Mitchell, Lucy Dacus, Steve Eaves a Meic Stevens, mae ei gwaith wedi ei ganmol am ei onestrwydd a dyfnder, tra bod ei natur ‘introverted’ wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth prin a hudolus i’r sîn Gymreig.

Yn 2025, rhyddhaodd sengl ddwbl, gan gynnwys ‘Am Eiliad’ a wnaed yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru, ac ‘O’r Ddwy Lan’ – ei chyfieithiad o Both Sides, Now gan Joni Mitchell. Rhyddhawyd ei EP cyntaf ‘Symbiosis’ yn 2024, gyda chefnogaeth Recordiau I KA CHING a Chronfa Lansio BBC Gorwelion. Fe gyrhaeddodd restr fer y Record Fer Orau yng Ngwobrau Selar 2025.

Mae wedi recordio sesiynau ar gyfer BBC Gorwelion a BBC Radio Cymru, wedi cyhoeddi ei cherddi mewn sawl cyfrol, ac mae’n aelod angerddol o brosiect cydweithredol Kathod.