GWILYM





Ers sefydlu yn 2017, mae Gwilym wedi hoelio eu hunan fel un o fandiau mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru gyda chaneuon fel ‘cynbohir’ a ‘\Neidia/’ yn cael eu clywed ar y radio fyth a beunydd.
Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf, ‘Sugno Gola’ (2018), a llu o wobrau, rhyddhawyd yr ail albwm, ‘ti ar dy ora’ pan ti’n canu’, yn Haf 2023. Mae nhw ar hyn o bryd yn gweithio ar ddeunydd newydd, gan nodi cychwyn pennod newydd i’r band.
“Band poblogaidd, tiwns am byth.” – Recordiau Côsh


