Logo Riff Cymru

GWENNO MORGAN

Instagram

Mae Gwenno Morgan yn gyfansoddwr a phianydd o Fangor. Mae ei pherfformiadau’n cyfuno elfennau neoglasurol, awyrgylch sinematig ac agos-atoch – gan wneud ei cherddoriaeth yn brofiad byw unigryw a chofiadwy.

Yn 2024 rhyddhaodd Gwenno ei halbwm cyntaf gwyw, a gafodd ei shortlistio ar gyfer Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2025, yn ogystal â dennu sylw CLASH Magazine a BBC Radio 3. Mae hi wedi perfformio’r gwaith yma’n fyw gyda band llawn a llinynnau, gan gynnwys cyngerdd lansio gwerthu allan yn Shepherd’s Bush, Llundain.

Mae cerddoriaeth Gwenno hefyd wedi cael ei chwarae ar BBC Radio 1, Radio 3, Radio 6, a Radio Cymru, gyda chefnogaeth gan artistiaid megis Hannah Peel, Sian Eleri ac Adam Walton. Yn ogystal, mae hi wedi perfformio mewn lleoliadau amlwg yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys y Southbank Centre y llynedd, a chyngerdd a oedd wedi gwerthu allan yn Yardbird, Caerdydd.