DADLEOLI





Mae Dadleoli yn fand Cymraeg sydd wedi hên dorri tir bellach fel un o’r enwau mwyaf addawol ar y sîn. Bu i haf 2025 gynnwys perfformiadau yng ngwyl Tafwyl, ar brif lwyfan y Sesiwn Fawr Dolgellau, Llwyfan y Maes a Maes B yn Eisteddfod Wrecsam 2025 . Yn chwarae cerddoriaeth Indie Rock mae eu sain yn egniol a modern. Aelodau’r band yw Efan Williams, Jake Collins, Caleb Griffiths, Tom Spivey a Jac Cordery.
Wedi’u ffurfio nol yn 2022 yng Nghaerdydd, dan arweinyddiaeth Mei Gwynedd, mae’r band wedi adeiladu enw da’n gyflym am eu perfformiadau byw ac maent wedi rhyddhau EP ‘Diwrnodau Haf’ yn 2023 ac albym ‘Fy MydBach i’ yn 2024. Mae’r ddwy wedi dennu sylw y sîn a’r traciau wedi cael eu chwarae yn rheolaidd ar y radio. Bu i’r trac Haf i Ti gael ei defnyddio fel anthem S4C ar ei hysbysebion am gigiau’r haf.


