BUDDUG





Buddug yw un o leisiau mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, talent ifanc ac aeddfed. Daw Buddug o Lanrug, ac er iddi ond troi’n 18 yn 2024, mae ei dawn fel canwr-gyfansoddwr a’i llais trawiadol yn llawer hŷn na’i hoed. Mae’r sengl ‘Dal Dig’ wedi rhoi sail gadarn iddi fel artist sy’n creu cyffro ledled Cymru, gyda cherddoriaeth ddwys, anthemig a phop hardd sy’n mynd yn ddyfnach na’r disgwyl gan artist mor ifanc.
Bu i Buddug ryddhau ei halbwm Cymraeg cyntaf yn 2025, wedi iddi gymryd blwyddyn allan o addysg i ddilyn ei breuddwyd o fyw drwy gerddoriaeth, gyda recordiad Saesneg hefyd ar y gorwel. Mae hi a’i band eisoes wedi perfformio ar rai o brif lwyfannau cerddorol Cymru, gan gynnwys Tafwyl yng Nghaerdydd, Maes B a’r Sesiwn Fawr. Mae hi hefyd wedi ennill amryw o wobrau’r Selar dros y blynyddoedd diweddar sydd yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’i thalent a’i gallu cerddorol arbennig.


