TOKOMOLOLO





Tokomololo yw prosiect unigol y cerddor Meilir Tee Evans, sy’n creu electronica “heulog a chyfoethog yn null Bonobo, Four Tet a Barry Can’t Swim” (Clash). Mae’r tirluniau sain hyn yn creu sylfaen perffaith i felodiau lleisol cymraeg, wedi’u perfformio gan Meilir ei hun, gan gynnig rhywbeth gwirioneddol ffres i gerddoriaeth cyfoes Cymraeg.
Yn fyw, mae Tokomololo yn defnyddio lwpio, samplo ac effeithiau lleisiol i greu setiau sy’n llifo yn ddi-stop o un trac i’r nesa a chael pobl yn dawnsio.
Mewn blwyddyn gyntaf llawn gigs ledled y DU, mae Tokomololo eisoes wedi perfformio yn FOCUS Wales, Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd, ac wedi’i gadarnhau, ar gyfer Other Voices (Aberteifi). Fe gymerodd rhan hefyd yn nigwyddiad ‘Carreg Ateb’ a guradwyd gan enillydd Gwobr Turner, Jeremy Deller, a’r Oriel Genedlaethol.
Er ei fod dal yn gynnar yn ei daith, mae Tokomololo yn datblygu’n gyflym i fod yn un o leisiau mwyaf unigryw cerddoriaeth electronig yng Nghymru. Mae’r sain yn tynnu ar elfennau dawns, ambient ac arbrofol, gyda’r alaw a’r stori wrth galon y cyfan.
“Does dim byd tebyg i Tokomololo yng Nghymru ar hyn o bryd” – Cylchgrawn Clash


