Logo Riff Cymru

SGWIB

Facebook
Instagram

Mae Sgwib yn fand o dref Dolgellau sydd yn tynnu rhai o gerddorion gorau a mwyaf profiadol y dref at i gilydd. Maent yn cyfansoddi cymysgedd beiddgar o gerddoriaeth egniol a bachog. Mae Riff yn hynod falch i fod yn cynrychioli y band lleol sydd wedi adeiladu enw da iw hunain gyda eu perfformiad mwyaf amlwg yn dod ar lwyfan y sgwâr yn Sesiwn Fawr 2025 ac mae’r gan ‘Awyr Iach’ wedi cael sylw amlwg ar Radio Cymru.

Yr aelodau yw David Bradley (Vocals), Wil Slaney (Guitar), Alun Cadwaladr (guitar), Cai Evans (guitar), Osian Lewis-Smith (Keys) Thomas Carr (Drums) a Gerwyn Murray (Bass)

Yn syth o galon Dolgellau, mae’r hogiau’n barod i adael eu marc tu hwnt i’r dre’.