Logo Riff Cymru

MARTHA ELEN

Facebook
Instagram

Yn wreiddiol o’r Felinheli, mae ei magwraeth ar lannau’r Fenai yn ddylanwad sy’n llifo’n gyson drwy eiriau Martha Elen. Yn cyfuno gweadau cynnil folk-americana gyda haenau lleisiol ac alawon bachog alt-pop, mae lle i ganfod cysur rhywle rhwng y dwys a’r ysgafn yn ei chaneuon.

Daw’r traciau atmosfferig a’r elfennau americana o gydweithio gyda’r cerddorion Gethin Elis, Iestyn Jones (y ddau yn aelodau o’r band WRKHOUSE), Samantha Grace a Jack Boles. Ar ôl cyfnod o recordio gyda chynhyrchydd Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn Stiwdio Sain, mae Martha a’r band yn edrych ymlaen at ryddhau mwy o ganeuon yn dilyn llwyddiant y sengl gyntaf ‘Canu Cloch’ a rhyddhawyd ym mis Ebrill gyda Recordiau I Ka Ching.