Logo Riff Cymru

LLIO HELEDD

Instagram

Daw Llio Heledd o Dreforus, Abertawe yn wreiddiol, ac wedi ei hastudiaethau yn Aberystwyth a Utrecht, Caerdydd yw ei chartref, bellach.

Yno, dechreuodd gyfansoddi caneuon gyda’r gitâr, a cheisio’r gynghanedd. Gwelir ddefnydd o’r modd hynafol yma o farddoniaeth Gymraeg yn ei chaneuon ac yn ei sengl gyntaf “afon” sy’n adlewyrchiad ar brofiad o fagwraeth Gymraeg yn Abertawe fel plentyn ifanc.

Mae ei steil a’i chaneuon yn acwstig ei naws ac yn werinol, gan gynnwys cân sy’n ymfalchio ym mro Abertawe a’i ddociau.