CYN CWSG





Mae Cyn Cwsg yn creu caneuon gonest a llawn emosiwn. Mae’r EP newydd Pydru yn yr Haul, (wedi’i gynhyrchu gan Tom Rees o Buzzard Buzzard Buzzard) yn taflu’r breuddwydiol trw’r ffenest wrth wneud lle i sŵn llawer iawn caletach.
Gan gyfuno roc, canu gwlad a phop, mae’r pedwarawd o’r Gogledd yn ysgrifennu gyda hiwmor, hiraeth, ac ychydig o agwedd — yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Disgrifiwyd y record gan Clash fel “EP hyderus, swynol a chwbl Gymreig,” gan ganmol ei “gitars anferth” a’i “harmonïau fel y Beach Boys.”
Gyda Pydru yn yr Haul yn cael ei chwarae yn rheolaidd ar BBC 6 Music gan Emily Pilbeam, a sesiynau byw diweddar i Marc Riley a BBC Introducing yn Maida Vale, mae Cyn Cwsg yn prysur sefydlu eu hunain fel un o leisiau newydd mwyaf cyffrous Cymru.

