Logo Riff Cymru

ACHLYSUROL

Facebook
Instagram

Triawd o Gaernarfon/Felinheli, sy’n cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, a’u ffrind Ifan Williams.

Glaniodd eu halbwm cyntaf, Rhywle Pell, mis Mai 2023. Albwm yn cynnwys senglau fel “Caerdydd yn Mis Awst”, “Un Noson Arall” a “Golau Gwyrdd”. Rhyddhawyd EP, Llwybr Arfordir, yn 2024, yn cynnwys senglau “Llwybr Arfordir” a “Llwyd ap Iwan”.

Mae’r band wedi chwarae ar lwyfannau gwyliau mawr Cymru, yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl, Triban a Sesiwn Fawr Dolgellau.

Yn ôl Y Selar “Mae sain y band yn fachog ac yn felodig, gyda’u trefniadau hamddenol, hypnotig yn gweddu’r haf yn berffaith.”

Mae’r band wrthi yn gweithio ar albwm newydd.