CORDIA





Sefydlwyd Cordia yn 2015 gan dair merch ifanc o Ynys Môn er mwyn cystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, gan gyrraedd y rownd derfynol yn Eisteddfod Maldwyn. Y flwyddyn ganlynol daeth y grŵp i’r amlwg yn genedlaethol wrth ennill Cân i Gymru a’r Ŵyl Ban Geltaidd gyda’u cân wreiddiol Dim Ond Un. Yn dilyn y llwyddiant hwnnw, rhyddhawyd eu EP cyntaf Tu Ôl i’r Llun, gan gadarnhau eu lle fel un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru ar y pryd.
Wedi hynny, aeth aelodau’r grŵp ymlaen i astudio mewn prifysgolion gwahanol ac felly penderfynwyd cymryd seibiant o berfformio. Fodd bynnag, yn 2024 ail-ffurfiwyd Cordia gyda bwriad clir i greu a rhyddhau cerddoriaeth newydd. Mae eu halbwm cyntaf, ADFYW, wedi’i ryddhau ym mis Mai 2025 ac wedi derbyn croeso cynnes gan y sîn gerddoriaeth a’r cyfryngau yma yng Nghymru.
Mae Cordia wedi cael hâf prysur yn 2025, gyda pherfformiadau bywiog mewn gwyliau a digwyddiadau mawr gan gynnwys Tregaroc, Gŵyl Cefni, Y Sioe Fawr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Sioe Môn. Yn ogystal â pherfformio’n fyw, mae Cordia hefyd wedi ymddangos ar sawl rhaglen deledu a radio, megis Noson Lawen, Heno, Prynhawn Da a BBC Radio Cymru.
Gyda’u cyfuniad unigryw o bop cyfoes a dylanwadau Cymreig, mae Cordia bellach yn barod i gymryd eu lle ar lwyfannau dros Gymru a thu hwnt.


